Dechrau ar eich Sialens Ddarllen yr Haf
Croeso i Sialens Ddarllen Haf 2020!
Yr haf hwn rydyn ni’n dathlu’r pleser o ddarllen gyda’r Sgwad Gwirion, criw ffrindiau hwyliog o anifeiliaid sy’n hoffi chwerthin!
Bydd y Sgwad Gwirion yn rhannu eu hoff lyfrau darllen a digon o weithgareddau hwyl i’ch cadw’n brysur dros yr haf.
Dechrau eich Sialens
Pwyswch ar y botwm Mewngofnodi oren i gofrestru ar eich proffil gwefan a dechrau eich Sialens Ddarllen yr Haf.
Os ydych chi’n newydd i’r wefan, fe fydd angen rhiant neu ofalwr arnoch chi i’ch helpu i gofrestru. Cymerwch olwg ar ein tudalen wybodaeth yma i ganfod mwy am y broses gofrestru cyn ichi ddechrau.
Unwaith ichi fewngofnodi, medrwch sefydlu eich proffil Sgwad Gwirion.
Dewiswch rithffurf (avatar) a Sgrîn-enw Sgwad, ac – yn bwysicach oll – gosod eich nod Sialens Ddarllen yr Haf.
Gewch chi benderfynu faint o lyfrau yr hoffech eu darllen yr haf hwn. Pob tro y byddwch wedi gorffen darllen llyfr, cewch ei ychwanegu at eich proffil a gadael adolygiad.
Dal ati i ddarllen hyd at ddiwedd eich nod a datgloi eich tystysgrif Sgwad Gwirion!
Edrychwch am wobrwyon ychwanegol i’w casglu ar hyd y ffordd, gan gynnwys fideos, gweithgareddau a rhithffurfiau ychwanegol.
A fedrwch chi gasglu’r holl rithffurfiau a datgloi’r Sgwad Gwirion gyfan?
Darllen (neu wrando ar lyfrau)
Fe gewch ddefnyddio unrhyw lyfrau o’ch dewis i gwblhau eich Sialens: mae ffuglen, llyfrau ffeithiol, barddoniaeth, llyfrau jôcs, llyfrau darluniadol, llyfrau llafar a chomics i gyd yn cyfrif!
Efallai fod ganddoch chi lyfrau gartref yr hoffech eu darllen. Cewch hefyd fenthyg llawer o lyfrau gwych o’ch llyfrgell. Er bod adeiladau llyfrgelloedd ar gau ar hyn o bryd, gall llyfrgelloedd barhau i’ch helpu cael hyd i lyfrau i’w darllen trwy eu gwasanaethau rhithwir a’u llwyfannau e-fenthyg.
Ewch at wefan eich gwasanaeth llyfrgell lleol i fenthyg eitemau yn rhad ac am ddim. Mae’n union fel mynd i lyfrgell ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf arferol, ond ar-lein!
Darllenwch ein harweiniad hwylus i ganfod mwy am gael hyd i lyfrau tra eich bod gartref.
Canfod argymhellion am lyfrau
Chwiliwch am gasgliad llyfrau’r Sgwad Gwirion am rai syniadau.
Mae’r llyfrau yno i gyd wedi’u dewis fel rhai da i’w darllen ar gyfer yr haf hwn gan lyfrgellwyr, a phlant tebyg i chi.
Cewch weld hefyd pa lyfrau sy’n cael eu hargymell gan blant eraill trwy ddefnyddio’r Llwythwr Llyfrau anhygoel!
Pwyswch ar wahanol rannau peiriant y Llwythwr Llyfrau i ddewis y mathau o lyfrau sy’n apelio atoch chi, ac fe gewch awgrymiadau am rai eraill i’w darllen.
Beth am fentro ychydig trwy bwyso’r botwm Hapddewis – rhowch gynnig arni!
Beth i’w wneud wedi gorffen llyfr
Wedi ichi gwblhau darllen neu wrando ar lyfr, ewch at eich proffil a phwyso ar y blwch pinc ‘Ychwanegu llyfr’.
Rhowch enw’r llyfr fuoch chi’n ei ddarllen, yna rhoi graddfa werthuso iddo a gadael adolygiad, er mwyn i bawb wybod eich barn. Bydd eich bar cynnydd yn llenwi wrth ichi agosáu at eich nod!
Cewch hefyd ddefnyddio eich proffil i:
- Gadw golwg ar y llyfrau yr hoffech eu darllen, gan ddefnyddio eich Rhestr Llyfrau-awydd-darllen
- Gweld y bathodynnau a’r datgloadau rydych wedi’u casglu
- Pleidleisio ym mholau piniwn diweddaraf y Sgwad Gwirion
Pethau eraill i’w gwneud ar y wefan hon
Mynd yn ôl i chwilio am gynnwys a gweithgareddau newydd a ychwanegir pob wythnos trwy gydol yr haf!
- Ymweld â’r dudalen Gweithgareddau i gymryd rhan mewn heriau creadigol, lawrlwytho gweithgareddau ychwanegol y Sgwad Gwirion a chymryd rhan mewn cystadlaethau
- Archwilio’r Clwb Darllen i gael hyd i gynnwys ychwanegol arbennig gan yr awduron a’r darlunwyr ysbrydoledig yng nghasgliad y Sgwad Gwirion, gan gynnwys athrylith y Sgwad Gwirion, Laura Ellen Anderson
- Ymuno â’r sgwrs ar dudalen Sgwrs a gadael i bawb wybod sut hwyl rydych yn ei gael ar eich Sialens Ddarllen yr Haf
- Mwynhau gemau clasurol Sialens Darllen yr Haf y gorffennol
- Cadw llygad ar y Blog am holl ddiweddariadau’r Sgwad Gwirion